Cwestiynau Amserol

Cwestiynau Amserol

Mae 20 munud ar gael i Aelodau ofyn Cwestiynau Amserol i'r Prif Weinidog, Gweinidogion neu'r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiynau llafar ddydd Mercher bob wythnos y mae'r Senedd yn eistedd mewn Cyfarfod Llawn.

Rhaid i Gwestiynau Amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

Caiff Aelodau gyflwyno Cwestiynau Amserol rhwng 9.00 ar ddydd Llun a 10.00 ar ddydd Mercher, a dim ond un Cwestiwn Amserol y caiff pob Aelod ei gyflwyno mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor. Caiff cwestiynau eu dethol yn ôl disgresiwn y Llywydd. Cyhoeddir yr atebion i’r cwestiynau ar wefan y Cofnod o fewn 24 awr iddynt gael eu gofyn.

Math o fusnes: Craffu ar Weinidogion

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/08/2022