Blaenraglen Waith – Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Blaenraglen Waith – Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Mae blaenraglen
waith Y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei
wneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Sefydlwyd y
Pwyllgor ar 26 Mai 2021 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn
Rheol
Sefydlog 21 a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall sy'n
ymwneud â: deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol
cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder a materion allanol.
Rhan barhaus o
waith y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 21 yw craffu ar is-ddeddfwriaeth
a osodwyd gerbron y Senedd.
Mae'r Pwyllgor
hefyd yn gyfrifol am ystyried Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth
Cymru mewn perthynas â Biliau'r DU, ac mae rhagor o fanylion am hyn (gan
gynnwys terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau) i'w gweld ar y tudalennau
perthnasol ar Gydsyniad
Deddfwriaethol.
Bydd unrhyw
ddogfennau a gyhoeddwyd eisoes yn nodi bwriadau'r Pwyllgor adeg eu cyhoeddi.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y rhaglen yn newid ar unrhyw adeg er mwyn
ymateb i ddigwyddiadau allanol.
Cylch gwaith y Pwyllgor
Ym mis Ionawr 2022 fe ysgrifennodd
y Pwyllgor Busnes at bwyllgorau'r Senedd fel rhan o adolygiad o amserlen y
pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau. Ymatebodd
y Pwyllgor ar 4 Chwefror 2022, a llywiodd hynny adroddiad
terfynol y Pwyllgor Busnes
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2021
Dogfennau