Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Caiff Aelodau’r Senedd (ASau) ofyn Cwestiynau Llafar i Weinidogion am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos yn y Cyfarfod Llawn, yn unol ag amserlen a bennir gan y Llywodraeth.

 

Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff unrhyw Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Rhaid i'r Aelodau a ddetholir gyflwyno eu cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn, ac yna cyhoeddir y cwestiynau, yn ôl y drefn honno, ar wefan y Cofnod. Cyhoeddir yr atebion i’r cwestiynau ar wefan hefyd o fewn 24 awr iddynt gael eu gofyn.

 

Bydd llefarwyr y grwpiau yn cael eu galw i ofyn cwestiynau heb hysbysiad i Weinidog yn ystod yr amser cwestiynau a drefnwyd, fel arfer ar ôl cwestiwn 2.

Math o fusnes: Craffu ar Weinidogion

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2021