Sefydlu pwyllgorau a'u cylchoedd gorchwyl
Cyn gynted ag y
bo modd ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig neu gynigion
yn awgrymu enwau a chylch gorchwyl y pwyllgorau, (Rheol Sefydlog 16.2). Wrth
wneud hynny, rhaid i'r Pwyllgor Busnes sicrhau:
- bod pob un o feysydd cyfrifoldeb y
Llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus cysylltiedig yn destun gwaith craffu gan
bwyllgor neu bwyllgorau;
- bod pob mater sy’n ymwneud â chymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler
Cyffredinol yn destun craffu gan bwyllgor neu gan bwyllgorau; a
- lle bo hynny’n rhesymol ymarferol, fod cydbwysedd
cyffredinol rhwng cyflawni’r cyfrifoldebau i:
- archwilio gwariant, gweinyddiaeth a
pholisi'r llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus cysylltiedig; ac
- archwilio deddfwriaeth.
Esbonnir y
gweithdrefnau ar gyfer sefydlu pwyllgorau a dyrannu cadeiryddion pwyllgorau yn
fanwl yn Adran F o'r Canllaw
i fusnes llawn cynnar ar ôl etholiad Mai 2021.
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2021
Dogfennau