Sefydlu pwyllgorau a'u cylchoedd gorchwyl

Sefydlu pwyllgorau a'u cylchoedd gorchwyl

Cyn gynted ag y bo modd ar ôl etholiad y Senedd, rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig neu gynigion yn awgrymu enwau a chylch gorchwyl y pwyllgorau, (Rheol Sefydlog 16.2). Wrth wneud hynny, rhaid i'r Pwyllgor Busnes sicrhau:

 

  • bod pob un o feysydd cyfrifoldeb y Llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus cysylltiedig yn destun gwaith craffu gan bwyllgor neu bwyllgorau;
  • bod pob mater sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn destun craffu gan bwyllgor neu gan bwyllgorau; a
  • lle bo hynnyn rhesymol ymarferol, fod cydbwysedd cyffredinol rhwng cyflawnir cyfrifoldebau i:
    • archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi'r llywodraeth a'r cyrff cyhoeddus cysylltiedig; ac
    • archwilio deddfwriaeth.

 

Esbonnir y gweithdrefnau ar gyfer sefydlu pwyllgorau a dyrannu cadeiryddion pwyllgorau yn fanwl yn Adran F o'r Canllaw i fusnes llawn cynnar ar ôl etholiad Mai 2021.

Math o fusnes: Busnes Cynnar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2021

Dogfennau