Is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'w Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf 2006, ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael ei gymeradwyo yn gyntaf gan y Senedd a dau Dŷ'r Senedd.

 

Mae Rheol Sefydlog 25 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn perthynas â thrafod Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2021