Aelodaeth pwyllgorau (gan gynnwys ethol cadeiryddion)
Os yw swydd wag
yn codi ar bwyllgor, neu os oes angen pennu ar weddill aelodaeth pwyllgor yn
dilyn ethol cadeirydd yn dilyn etholiad y Senedd (gweler isod), rhaid i’r
Senedd gytuno ar gynnig a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Busnes i lenwi gweddill
aelodaeth y pwyllgor. Esbonnir y gweithdrefnau ar gyfer aelodaeth pwyllgorau yn
Rheolau Sefydlog 17.3–17.16.
Unwaith y bydd pwyllgorau wedi’u sefydlu yn dilyn
etholiad y Senedd, a’u cadeiryddion wedi’u dyrannu i grwpiau, bydd y Senedd
yn symud ymlaen i ethol y cadeiryddion.
Bydd y Llywydd yn
gwahodd enwebiadau; ar gyfer pob cadair, dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol sydd wedi'i ddyrannu i'r
gadair honno y gellir ei enwebu.
Os un enwebiad yn
unig a geir, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebir yn cael ei ethol
yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o
enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy
bleidlais gudd.
Pan fydd swydd
cadeirydd yn dod yn wag yn ystod Senedd, rhaid i’r Pwyllgor Busnes ystyried y
swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran y grwpiau
gwleidyddol, a gall benderfynu cynnig newid dyraniad y cadeiryddion. Rhaid
llenwi’r swydd wag, neu swyddi gwag, cadeirydd pwyllog drwy gynnal etholiad yn
y dull a ddisgrifiwyd uchod.
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021