Aelodaeth pwyllgorau (gan gynnwys ethol cadeiryddion)

Aelodaeth pwyllgorau (gan gynnwys ethol cadeiryddion)

Os yw swydd wag yn codi ar bwyllgor, neu os oes angen pennu ar weddill aelodaeth pwyllgor yn dilyn ethol cadeirydd yn dilyn etholiad y Senedd (gweler isod), rhaid i’r Senedd gytuno ar gynnig a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Busnes i lenwi gweddill aelodaeth y pwyllgor. Esbonnir y gweithdrefnau ar gyfer aelodaeth pwyllgorau yn Rheolau Sefydlog 17.3–17.16.

 

Unwaith y bydd pwyllgorau wedi’u sefydlu yn dilyn etholiad y Senedd, a’u cadeiryddion wedi’u dyrannu i grwpiau, bydd y Senedd yn symud ymlaen i ethol y cadeiryddion.

 

Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau; ar gyfer pob cadair, dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol sydd wedi'i ddyrannu i'r gadair honno y gellir ei enwebu.

 

Os un enwebiad yn unig a geir, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebir yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gudd.

 

Pan fydd swydd cadeirydd yn dod yn wag yn ystod Senedd, rhaid i’r Pwyllgor Busnes ystyried y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran y grwpiau gwleidyddol, a gall benderfynu cynnig newid dyraniad y cadeiryddion. Rhaid llenwi’r swydd wag, neu swyddi gwag, cadeirydd pwyllog drwy gynnal etholiad yn y dull a ddisgrifiwyd uchod.

Math o fusnes: Busnes Cynnar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021