Penodi Comisiwn y Senedd

Penodi Comisiwn y Senedd

Comisiwn y Senedd yw corff corfforaethol Senedd Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Senedd.

 

Rhaid penodi Comisiynwyr y Senedd cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl yr etholiad (Rheol Sefydlog 7.1). Mae'r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd (ex officio) a phedwar Aelod arall.

 

Rhaid i'r cynnig, a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes, gynnig enwau'r pedwar Aelod. I’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, dylai pob Aelod (ar wahân i’r Llywydd) fod yn perthyn i grŵp gwleidyddol gwahanol.

 

Esbonnir y weithdrefn ar gyfer penodi Comisiwn y Senedd yn fanwl yn Adran F o'r Canllaw i fusnesau llawn ar ôl etholiad Mai 2021.

 

Darllenwch fwy am waith y Comisiwn.

Math o fusnes: Busnes Cynnar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021