Penodi Comisiwn y Senedd
Penodi Comisiwn y Senedd
Comisiwn y Senedd
yw corff corfforaethol Senedd Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a
gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Senedd.
Rhaid penodi
Comisiynwyr y Senedd cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl yr etholiad
(Rheol Sefydlog 7.1). Mae'r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd (ex officio) a
phedwar Aelod arall.
Rhaid i'r cynnig,
a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes, gynnig enwau'r pedwar Aelod. I’r graddau y
mae hynny’n rhesymol ymarferol, dylai pob Aelod (ar wahân i’r Llywydd) fod yn
perthyn i grŵp
gwleidyddol gwahanol.
Esbonnir y weithdrefn
ar gyfer penodi Comisiwn y Senedd yn fanwl yn Adran F o'r Canllaw
i fusnesau llawn ar ôl etholiad Mai 2021.
Darllenwch fwy am
waith y Comisiwn.
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021