Datganiadau 90 Eiliad
Yn dilyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd
Mercher, gall Aelodau wneud datganiad byr sy’n para dim mwy na 90 eiliad. Rhaid
i'r datganiadau fod yn fyr ac yn ffeithiol, ac nid ydynt yn destun dadl.
Gellir eu defnyddio i dynnu sylw at unrhyw bwnc sy’n
destun pryder. Er enghraifft, gall Aelodau godi materion sy'n peri pryder mawr
i'w hetholwyr, tynnu sylw at broblemau lleol, penblwyddi neu ddyddiadau
arwyddocaol, neu dalu teyrnged i rywun.
Neilltuir cyfanswm o bum munud i’r eitem hon. Mae hyn yn
caniatáu i dri Aelod wneud datganiadau bob wythnos, a chaiff y rhain eu dewis
ymlaen llaw gan y Llywydd.
Math o fusnes: Datganiad
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021