P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol

P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alanna Louise Virk, ar ôl casglu cyfanswm o 94 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae gormod o blant yn dioddef mewn distawrwydd, yn hunan-niweidio neu'n cyflawni hunanladdiad. Nid yw annog plant i fod yn garedig wrth ei gilydd yn gweithio. Nid yw bwlis yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Dylid gwneud bwlio ac aflonyddu yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol (10 oed+).

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn amlach na pheidio y dioddefwyr a'u teuluoedd sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau bwlio, nid y bwlis. Mae llawer o blant yn cyflawni hunanladdiad neu yn cael eu bywydau wedi'u dinistrio, ond mae bwlis yn byw gweddill eu bywydau heb wynebu unrhyw ganlyniadau am eu gweithredoedd. Yn aml ni fydd plant yn codi llais oherwydd eu bod yn teimlo'n ddi-rym ac yn credu nad oes modd atal y bwlio. Os byddai hyn yn gyfraith yna fe allai plant deimlo'n fwy hyderus i godi llais yn erbyn eu bwlis. Mae bwlio ac aflonyddu yn y gweithle wedi'i warchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pam na all plant gael yr un amddiffyniad?

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod deddfwriaeth eisoes yn bodoli ar gyfer sefyllfaoedd pan fo bwlio neu aflonyddu yn drosedd, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu ymhellach ar y mater hwn. Felly, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater.

 

Wrth gau’r ddeiseb, roedd yr Aelodau am wneud y datganiad nad yw bwlio ac aflonyddu yn dderbyniol yng Nghymru.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021