P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Claire Woolley, ar ôl casglu cyfanswm o 393 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae angen gwarantu mynediad i fyfyrwyr sy’n cael addysg yn y cartref at ganolfannau arholiadau lleol addas, er mwyn iddynt gael yr un hawliau a mynediad at gymwysterau â phob plentyn arall yng Nghymru.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 24/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod llythyr y Gweinidog yn nodi’r trefniadau ar gyfer arholiadau 2022, y bwriad i feithrin perthynas well â theuluoedd sy’n darparu Addysg Ddewisol yn y Cartref, a’r cyllid sy’n cael ei ddarparu i Awdurdodau Lleol i gefnogi teuluoedd. Yn sgil yr ymateb cadarnhaol gan y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021