Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

Cyflwynwyd Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 9 Mawrth 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ynghylch yr heddlu a gweithwyr y gwasanaethau brys eraill; gwneud darpariaeth ynghylch  trefniadau i awdurdodau gydweithio i atal a lleihau trais difrifol; gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o achosion o ddynladdiad ag arfau ymosodol; gwneud darpariaeth ynghylch troseddau newydd ac ar gyfer addasu troseddau presennol; gwneud darpariaeth ynghylch pwerau'r heddlu ac awdurdodau eraill at ddibenion atal, canfod ac ymchwilio i droseddau neu eu herlyn, neu ar gyfer ymchwilio i faterion eraill; gwneud darpariaeth ynghylch cynnal y drefn gyhoeddus; gwneud darpariaeth ynghylch symud, storio a gwaredu cerbydau; gwneud darpariaeth mewn perthynas â throseddau gyrru; gwneud darpariaeth ynghylch rhybuddion; gwneud darpariaeth ynghylch mechnïaeth a remand; gwneud darpariaeth ynghylch dedfrydu, cadw, rhyddhau, rheoli ac ailsefydlu troseddwyr; gwneud darpariaeth ynghylch Academïau 16 i 19 diogel; gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefnau gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd, ac mewn perthynas â hwy; a dibenion cysylltiedig.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Trafodwyd y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2022. Derbyniwyd Cynnig 1, a gwrthodwyd Cynnig 2.

 

Trafodwyd y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ionawr 2022. Derbyniwyd Cynnig 1, a gwrthodwyd Cynnig 2.

 

Gwaith craffu yn y Chweched Senedd

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) – Chwefror 2022

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 331KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 28 Chwefror 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Ionawr 2022

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 175KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 7 Ionawr 2022.

 

Cytunodd (PDF 41.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Memorandwm Rhif 4) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Ionawr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 206KB) ar Femorandwm Rhif 3 a Femorandwm Rhif 4 ar 17 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF 326KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Rhagfyr 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 146KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Rhagfyr 2021.

 

Cytunodd (PDF 42KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Ionawr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 206KB) ar Femorandwm Rhif 3 a Femorandwm Rhif 4 ar 17 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF 326KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Tachwedd 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 110KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Tachwedd 2021.

 

Cytunodd (PDF 41.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 25 Tachwedd 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 215KB) ar 25 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF 424KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 7 Ionawr 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 185KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 28 Mai 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 14 Hydref 2021 (PDF 45.4KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad  ar 14 Hydref 2021. Ymatebodd (PDF 256KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 12 Tachwedd 2021.

 

 

Gwaith craffu yn y Bumed Senedd

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 22 Mawrth 2021. (PDF 184KB)

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2021

Dogfennau