P-06-1158 Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth

P-06-1158 Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alex Chung, ar ôl casglu cyfanswm o 315 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gydag un o bob pump o bobl yma yng Nghymru yn byw gydag anabledd yn ôl SYG, ni fu erioed yn bwysicach i Gymru ddod yn genedl wirioneddol gynhwysol i'w holl ddinasyddion. Rydym am i Gymru fod y wlad ddatganoledig gyntaf i gael ei Gweinidog anabledd pwrpasol ei hun. Gyda gweinidog pwrpasol yn canolbwyntio ar anabledd, gallwn gymryd camau brasach tuag at system gyflogaeth decach, creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr anabl a chynnig mwy o gymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Enghreifftiau o ystadegau anabledd yng Nghymru.

(1) Mae anabledd gan fwy nag un o bob pump o bobl o oedran gweithio yng Nghymru.

(2) Nid oes gan 21 y cant o orsafoedd trenau yng Nghymru fynediad heb risiau ac, ar y gyfradd bresennol, ni fydd gorsafoedd yn gwbl hygyrch tan 2070.

(3) Mae problem iechyd meddwl gan un o bob pedwar o bobl.

(4) Roedd 330,000 o bobl anabl yn ddi-waith y llynedd. Y llynedd, roedd 81.8 y cant o bobl nad ydynt yn anabl yn gyflogedig o gymharu hynny â 53.2 y cant o bobl anabl ar yr un pryd yn ôl ystadegau’r SYG (DU)

 

Dyma ychydig o enghreifftiau o pam y gall cael gweinidog anabledd pwrpasol yn Llywodraeth Cymru roi trefn ar y materion hyn ynghylch anabledd yng Nghymru.

 

(1)https://statswales.gov.wales/Catalogue/Equality-and-Diversity/Disability/summaryofeconomicactivityinwales-by-yeardisabledstatus-fromapril2013

 

(2)Leonard Cheshire. Trains for All Campaign, 2019

 

(3)ONS, Psychiatric Morbidity, 2007

 

(4)https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/healthandsocialcare/disability/bulletins/disabilityandemploymentuk/2019

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Croesawodd y Pwyllgor y penderfyniad i sefydlu'r Tasglu Hawliau Anabledd dan arweiniad y Gweinidog a fydd yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad gan y Fforwm Cydraddoldeb Anabledd, sy'n galw am benodi Gweinidog Anabledd dynodedig. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Merthyr Tudful a Rhymni
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021