P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dwr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws

P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dwr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1155 Caniatáu chwaraeon dŵr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tavi Murray, ar ôl casglu cyfanswm o 1,447 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae gweithgareddau ac ymarfer corff yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl. Gofod glas: mae camlesi, afonydd, llynnoedd a'r arfordir yn ffynonellau llesiant gwerthfawr a diogel, a wrthodir i ni yng Nghymru ar hyn o bryd. O ganlyniad i hyn mae llawer ohonom yn dioddef o heriau iechyd meddwl gwirioneddol.

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r ymadrodd sy'n awgrymu bod pob math o chwaraeon dŵr yn cael ei wahardd yn ystod cyfnodau clo a chaniatáu mynediad at ofod glas lleol ar yr amod bod cyfyngiadau teithio yn cael eu dilyn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym i gyd yn cytuno y dylem “osgoi gweithgareddau sy'n golygu cryn dipyn o risg” yn ystod cyfnodau clo beth bynnag fo'r amgylchedd lle mae'r rhain yn cael eu cynnal, er mwyn gwarchod y gwasanaethau brys. Fodd bynnag, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddileu'r ymadrodd sy'n awgrymu bod pob math o chwaraeon dŵr yn y categori hwn. Gall gweithgareddau dŵr fel caiacio, canŵio, syrffio, chwaraeon padlo a nofio yn yr awyr agored ddarparu ymarfer corff rhagorol a diogel ynghyd â buddion iechyd meddwl enfawr.

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i aralleirio'r Cwestiynau Cyffredin hyn i ddarllen yn syml: “Gan mai un o ddibenion y cyfyngiadau yw lleihau’r pwysau ar y GIG yng Nghymru, dylech osgoi gweithgareddau sy’n golygu cryn dipyn o risg.”

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb o ystyried y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa wedi newid erbyn i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar ôl Etholiad y Senedd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021