P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth

P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1153 Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Keri Mckibbin, ar ôl casglu cyfanswm o 272 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym yn rheoli campfa ym Mhorth Tywyn. Mae gennym 8,000 troedfedd sgwâr o le yn yr awyr agored, ac rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol o'r sesiynau hyn yn yr awyr agored a oedd yn dilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r cyfnod clo wedi gwneud niwed i lawer o’n haelodau, gan godi gorbryder, straen, ofn ac iselder. Mae pob un yn dweud bod ein sesiynau yn yr awyr agored wedi cadw'r cyflyrau hyn draw ac wedi bod yn help aruthrol drwy gyfnod anodd iawn. Nid oes modd gorbwysleisio eu heffaith ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a byddai'n hwb enfawr i fywyd cymunedol Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae gwyddonwyr SAGE, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, yn dweud bod ymarfer corff yn yr awyr agored yn ddiogel ac yn argymell pawb i wneud ymarfer corff unwaith y dydd. Wrth wneud hyn, rydym yn cynnal yr holl brofion tymheredd, yn diheintio'r holl gyfarpar a ddefnyddir rhwng sesiynau, ac mae pawb yn trin ei gyfarpar ei hun. Mae’n siŵr ei bod yn llawer gwell ymarfer corff mewn amgylchedd proffesiynol rheoledig, gan roi hwb i iechyd y gymuned. Bu timau chwaraeon lleol hefyd yn arsylwi ar yr amodau llym hyn drwy gydol y cyfnodau y caniatawyd iddynt chwarae, a bydd ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith bwerus iawn ar blant ac oedolion yng Nghymru. Mae chwaraeon ysgol yn Lloegr, er enghraifft, yn dechrau ar 8 Mawrth, eto ar gyngor gwyddonwyr. Dewch i ni gael Cymru i fynd eto a pheidio â syrthio y tu ôl i Loegr.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb i'r mater a godwyd ac eglurder pellach ynghylch pryd y mae’n ystyried y gall campfeydd a chwaraeon i blant ailddechrau, fel y gellir dweud hyn wrth y deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb o ystyried y tebygolrwydd y bydd y sefyllfa wedi newid erbyn i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar ôl Etholiad y Senedd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Llanelli
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021