P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr
P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Denise Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 640 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ym
mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n rhoi
gwyliau ardrethi i’r diwydiant lletygarwch a hamdden. Yn yr un modd â’r Alban,
rhoddodd Llywodraeth Cymru ryddhad ardrethi i fusnesau sydd â gwerth ardrethol
o dan £500,000. Cafodd llawer o fusnesau eu heithrio o’r gwyliau ardrethi
oherwydd bod eu gwerth ardrethol dros £500,000. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd
hyn yn rhannu bil yr ardrethi rhwng perchnogion y carafanau, felly nid ydym yn
cael budd o’r gwyliau ardrethi ar yr adeg anodd hon, pan fyddai’r arian ychwanegol
yn gymorth mawr. Mae pob un ohonom yn parchu dewis Llywodraeth Cymru i gau’r
ffiniau er mwyn atal y feirws rhag lledaenu. Fodd bynnag, yn gyfnewid am hynny,
hoffem ofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru drwy beidio â rhoi terfyn uchaf ar
gyfer ryddhad ardrethi. Byddai hyn o gymorth mawr i berchnogion cartrefi
gwyliau sydd ddim wedi gallu manteisio ar y rhyddhad ardrethi hyd yn hyn. Rydym
am gael yr un rheolau ag sydd yn eu lle yn Lloegr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/07/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gan fod y camau yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn
cael eu rhoi ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
16/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2021