NDM7598 Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim
NDM7598 Dadl Plaid Cymru - Cymhwystra prydau ysgol am ddim
NDM7598 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb
ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i
ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn
teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn
mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei
le:
1. Yn credu ei bod yn
annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn
yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu
tlodi a newyn.
2. Yn croesawu bod
Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50
miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn
parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud
darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;
b) wedi darparu cyllid
ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn
parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw
fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o
£19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y
ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru
yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i
ysgolion cynradd;
e) wedi cael
cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod
teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael
mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i gynnal
adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan
gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar
ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021