P-05-1143 Ail-agorwch ysgolion yn llawn ar unwaith ar ôl hanner tymor mis Chwefror

P-05-1143 Ail-agorwch ysgolion yn llawn ar unwaith ar ôl hanner tymor mis Chwefror

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1143 Ail-agorwch ysgolion yn llawn ar unwaith ar ôl hanner tymor mis Chwefror

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Charlotte Young, ar ôl casglu cyfanswm o 625 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Cafwyd tarfu enfawr ar addysg ein plant eisoes.

Mae iechyd meddwl plant yn dioddef.

Mae gan blant hawl i addysg - ni chawn nhw fyth yr amser hwn yn ôl.

Nid yw dysgu o bell yn gweithio i blant ysgolion cynradd a’u teuluoedd.

Mae rhieni o dan bwysau enfawr ac anghynaliadwy i addysgu eu plant gartref yn ogystal â gweithio.

Mae brechu staff ysgolion yn cydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt a bydd yn lleihau’r risg o gau ysgolion eto.

 

A group of people in a classroom

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni dychweliad graddol presennol disgyblion i ysgolion, nododd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/03/2021