Diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant

Diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant

Cefndir

 

Ar 27 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fframwaith dros dro ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant, a hynny fel papur gorchymyn (Saesneg yn unig).

 

Mae diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant yn faes sydd wedi'i gysoni i raddau helaeth â chyfraith yr UE. Mae’n cynnwys cyfreithiau cyffredinol yn ymwneud â bwyd a phorthiant, materion diogelwch a safonau ym maes bwyd a phorthiant, rheolaethau swyddogol, a rheolaethau iechyd cyhoeddus sy’n ymwneud â bwyd sy’n cael ei fewnforio.

 

Gwnaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru doreth o ddeddfwriaeth o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro cyfraith yr UE a sicrhau ei bod yn gweithio mewn cyd-destun domestig yn dilyn diwedd y cyfnod pontio. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo swyddogaethau o'r UE i gyrff y DU a chyrff datganoledig. Rhwng 4 Medi a 14 Hydref 2018, cynhaliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ymgynghoriad ynghylch y dull o gywiro cyfreithiau ym maes diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant.

 

Casglu tystiolaeth

 

Trafododd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y fframwaith ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant yn ystod ei gyfarfod ar 3 Rhagfyr 2020.

 

Yn ystod ei gyfarfod ar 1 Chwefror 2021, cafodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn friffio dechnegol ynghylch y fframwaith ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a phorthiant gan swyddogion o'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

Allbwn

 

Ar 22 Mawrth 2021, ysgrifennodd (PDF, 302KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi casgliadau'r Pwyllgor, ar ôl iddo drafod Cytundeb Amlinellol y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Ymatebodd (PDF, 266KB) y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg ar 24 Mawrth 2021.

Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021

Dogfennau