Fframwaith ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau

Fframwaith ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau

Cefndir

 

Cyhoeddwyd y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau ar 9 Hydref 2020 [Saesneg yn unig].

 

Mae'r fframwaith yn nodi trefniadau ar gyfer cydweithredu rhwng pedair llywodraeth y DU ar gyfer polisi Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau.

 

Mae'r fframwaith yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir ar:

  • honiadau maeth (fel, honiadau bod cynnyrch yn isel mewn braster);
  • honiadau iechyd (fel, honiadau bod cynnyrch yn fuddiol i iechyd);
  • ychwanegu fitaminau, mwynau, a rhai sylweddau eraill at fwyd (gan gynnwys bwyd cyfnerthedig ac wedi’i gyfoethogi);
  • bwyd ar gyfer grwpiau penodol (ar gyfer babanod neu blant bach, ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol, neu i gymryd lle rhywbeth arall yn y diet er mwyn colli pwysau); ac
  • atchwanegiadau bwyd (fel tabledi fitamin).

 

Casglu tystiolaeth

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y fframwaith Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau yn ei gyfarfod ar 15 Hydref 2020.

 

Ar 23 Hydref 202 ysgrifennodd y Cadeirydd lythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gydag amrywiaeth o gwestiynau cychwynnol i ddechrau’r broses graffu. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ar 12 Tachwedd 2020, a rhoddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2020.

 

Allbwn

 

Ar 20 Ionawr 2021 ysgrifennodd y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg i nodi barn y Pwyllgor ar y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau yn dilyn y gwaith craffu cychwynnol.

Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/02/2021

Dogfennau