P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Habberfield, ar ôl casglu cyfanswm o 425 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Ar 21 Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd y tri adroddiad ynghylch llesddaliad a chyfunddaliad preswyl gan Gomisiwn y Gyfraith (gweler y manylion ychwanegol). Rydym o’r farn y dylai’r argymhellion o’r adroddiadau hyn gael eu gweithredu ar unwaith yng nghyfraith Cymru, heb oedi, er mwyn gwella bywydau dros 400,000 o lesddeiliaid Cymru. Mae dros wyth mlynedd ers i’r Alban arwain y ffordd a diddymu lesddaliad o’u tai, ac yn sgil yr adroddiad hwn mae gan y Senedd fandad clir, bellach, i gymhwyso mesurau deddfwriaethol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

https://www.lawcom.gov.uk/project/residential-leasehold-and-commonhold/

 

Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith dri adroddiad gan argymell diwygiadau i dri maes o fewn y gyfraith:

(1.) rhyddfreinio lesddaliad, sef yr hawl i bobl sy'n berchen ar eiddo ar lesddaliad hir (“lesddeiliaid”) brynu'r rhydd-ddaliad neu ymestyn eu lesddaliad

(2.) yr hawl i reoli, sy'n hawl i lesddeiliaid gymryd yr awenau o ran rheoli eu hadeilad heb brynu'r rhydd-ddaliad

(3.) cyfunddaliad, sy'n caniatáu perchnogaeth rhydd-ddaliadol fflatiau, gan gynnig ffordd arall o fod yn berchen ar eiddo sy'n osgoi diffygion perchnogaeth lesddaliadol.

 

A row of houses

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor, o ganlyniad i'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd, gan nodi y byddai'n debygol y bydd rhai amgylchiadau bob amser yn bodoli lle byddai angen i lesddeiliaid fod ar waith. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2021