Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021
Bil Brys
Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Julie James AS, y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Bil Brys yw Bil
Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses ddeddfu
pedwar cyfnod arferol y Senedd yn ei ganiatáu. Ni ddarperir diffiniad o Fil
Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog
y Senedd. Fodd bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:
“Os yw’n
ymddangos i aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil
llywodraeth, a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys
llywodraeth.”
Gwybodaeth am
y Bil
Mae Bil Etholiadau
Cymru (Coronafeirws) yn gwneud darpariaeth i ymateb i’r risgiau posibl i’r
etholiad cyffredinol arferol ar gyfer aelodaeth Senedd Cymru sy'n deillio o bandemig
y coronafeirws, a hynny er mwyn sicrhau y gellir gweinyddu'r etholiad a bwrw
ymlaen yn ddiogel ac y gall yr etholwyr gymryd rhan a phleidleisio.
O ran y Senedd,
dim ond i’r etholiad cyffredinol arferol sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2021 y bydd
darpariaethau’r Bil yn gymwys ac ni fyddant yn gymwys i unrhyw etholiadau
dilynol.
Mae’r Bil hefyd
yn ymateb i’r risgiau posibl cysylltiedig â’r coronafeirws drwy ganiatáu i
isetholiadau llywodraeth leol gael eu gohirio’r tu hwnt i 6 Mai 2021 os bydd
angen.
Mae rhagor o
fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.
Y cyfnod
presennol
BillStagePost4
Mae’r Bil yng
Nghyfnod ar ôl 4 ar hyn o bryd. Mae
eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw
i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith
y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||
Cynnig i drin y
Bil fel Bil Brys y Llywodraeth Cynnig i gytuno
ar amserlen |
Cyflwynwyd ar
19 Ionawr 2021, i’w drafod ar 26 Ionawr 2021 |
||||||||
Cyflwyno'r
Bil: 27 Ionawr 2021 |
Bil Etholiadau
Cymru (Coronafeirws), fel y'i cyflwynwyd Datganiad y
Llywydd: 19 Ionawr 2021 Datganiad
gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 27 Ionawr 2021 |
||||||||
Cyfnod 1: Y Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion
cyffredinol |
Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Gosododd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad adroddiad ar
2 Chwefror 2021. Ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, Atodiad
– 3 Chwefror 2021 |
||||||||
Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr
egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd y
Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod
Llawn ar 2
Chwefror 2021. |
||||||||
Penderfyniad
Ariannol |
Cytunwyd ar
Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn y
Cyfarfod Llawn ar 2
Chwefror 2021. Mae rhagor o
wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw
i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus. |
||||||||
Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod gwelliannau |
Dechreuodd
Cyfnod 2 yn syth ar ôl cwblhau Cyfnod 1. Cyhoeddir
manylion y gwelliannau a gyflwynwyd i’w hystyried yn y Pwyllgor o’r Senedd
Gyfan ar 9 Chwefror 2021 yma. Y dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 16.00 ar 5 Chwefror 2021. Hysbysiad
ynghylch gwelliannau – 4 Chwefror 2021 Tabl
Pwrpas ac Effaith – 4 Chwefror 2021 Hysbysiad
ynghylch gwelliannau – 5 Chwefror 2021 Rhestr
o welliannau wedi’u didoli – 9 Chwefror 2021 Grwpio
gwelliannau – 9 Chwefror 2021 Bil
Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 |
||||||||
Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn |
Cynhelir
ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2021 pan drafodir y
gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2). Y dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 22.00 ar 9 Chwefror 2021. Hysbysiad
ynghylch gwelliannau – 9 Chwefror 2021 Tabl
Pwrpas ac Effaith – 9 Chwefror 2021 Rhestr
o welliannau wedi’u didoli – 10 Chwefror 2021 Grwpio
gwelliannau – 10 Chwefror 2021 Bil
Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 |
||||||||
Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd y
Senedd ar y Bil ar 10
Chwefror 2021. Bil
Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i pasiwyd |
||||||||
Ar ôl Cyfnod
4 |
Ysgrifennodd y Cyfreithiwr
Cyffredinol ar ran y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler
Cyffredinol, ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru, at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio Bil
Etholiadau Cymru (Coronafeirws) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114
o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. |
||||||||
Dyddiad
Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol ar 16 Mawrth 2021. |
Gwybodaeth
gyswllt
Clerc:
Gareth Rogers
Rhif
ffôn: 0300 200 6357
Cyfeiriad
post:
Senedd
Cymru
Bae
Caerdydd
Caerdydd
CF99
1SN
E-bost:
deddfwriaeth@senedd.cymru
Math o fusnes: Deddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/01/2021
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, Atodiad - 3 Chwefror 2021
PDF 462 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor - 3 Chwefror 2021
PDF 256 KB
- Hysbysiad ynghylch gwelliannau- 4 Chwefror 2021
PDF 134 KB
- Tabl Pwrpas ac Effaith – 4 Chwefror 2021
PDF 249 KB
- Hysbysiad ynghylch gwelliannau- 5 Chwefror 2021
PDF 125 KB
- Rhestr o welliannau wedi'u didoli - 9 Chwefror 2021
PDF 168 KB
- Grwpio gwelliannau - 9 Chwefror 2021
PDF 93 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - 26 Chwefror 2021
PDF 517 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Llywydd, 9 Chwefror 2021
PDF 367 KB
- Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
PDF 102 KB
- Hysbysiad ynghylch gwelliannau – 9 Chwefror 2021
PDF 118 KB
- Tabl Pwrpas ac Effaith – 9 Chwefror 2021
PDF 186 KB
- Rhestr o welliannau wedi’u didoli – 10 Chwefror 2021
PDF 119 KB
- Grwpio gwelliannau - 10 Chwefror 2021
PDF 91 KB
- Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3
PDF 112 KB
- Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i pasiwyd
PDF 100 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - 1 Mawrth 2021 (Saesneg yn unig)
PDF 201 KB
- Llythyr gan y Cyfreithiwr Cyffredinol - 2 Mawrth 2021 (Saesneg yn unig)
PDF 82 KB
- Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol - 3 Mawrth 2021
PDF 252 KB
- Llywydd at Gadeiryddion - Bill Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Penderfyniadau Pwyllgor Busnes
PDF 228 KB