P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Daniel Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 242 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae’r A44 yn gefnffordd bwysig i gerbydau sy’n teithio i gyfeiriad Aberystwyth. Mae’r ffordd yn mynd heibio i’r ystâd ddiwydiannol, o dan y rheilffordd ac yn mynd drwy bentref poblog Llanbadarn Fawr ac mae’n aml yn brysur wrth i gerddwyr, beicwyr a thraffig trwm deithio arni. Yn aml iawn, rhaid i gerddwyr redeg o dan bont y rheilffordd gan nad oes llwybr troed a chroesi’r A44 ar gornel ddall ym Mwllhobi, sy’n rhan o’r pentref. Rydym wedi anfon sylwadau at Lywodraeth Cymru ond nid yw wedi cymryd unrhyw gamau eto.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym yn galw am fesurau diogelwch gwell ar gefnffordd yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion, sef:

- terfyn cyflymder o 20mya,

- croesfan i gerddwyr ym Mhwllhobi

- twnnel ar gyfer llwybr troed o dan y rheilffordd.

 

A picture containing scene, way, road, highway

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ddatganiad Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru y dylid gosod croesfan ac ystyried ymgymryd â rhagor o waith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Nododd y Pwyllgor hefyd y datganiad y bydd angen i'r awdurdod lleol arwain ymgynghoriad cymunedol ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r ffordd wrth weithredu terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol, a daeth i'r casgliad nad oedd llawer y gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb i’r Dirprwy Weinidog, a chaewyd y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2021