P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy'n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru

P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy'n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru

Wwedi'i gwblhau

 

P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy’n cael eu cyflwyno o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dave Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 155 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o basio rheolau ar fywydau'r cyhoedd heb gael cymeradwyaeth gan gynrychiolwyr etholedig Senedd Cymru yn gyntaf. Felly nid yw’r rheolau’n ddemocrataidd.

 

A picture containing sky, outdoor, roof

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd oherwydd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn Etholiad y Senedd ac, fel yr amlinellwyd mewn gohebiaeth gan y Prif Weinidog, mae deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Islwyn
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2021