P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth

P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dylan Wilson-Lewis, ar ôl casglu cyfanswm o 335 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Byddai gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr yng nghymuned drefol boblog Penparcau, sy’n gartref i dros 1,000 o blant, sef y nifer uchaf yng Ngheredigion, yn gwella diogelwch, yn hyrwyddo llesiant ac yn hybu cynaliadwyedd drwy annog pobl i wneud dewisiadau amgen o ran teithio llesol. Mae’r A487 yn cynnig mynediad at ysgol gynradd ac at Hwb Cymunedol Fforwm Cymunedol Penparcau, a dyma’r unig ffordd o gael mynediad at y Swyddfa Bost leol a siopau’r gymuned.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar hyn o bryd, mae’r A487 yn rhwystr rhwng dwy ochr ardal breswyl Penparcau. Byddai gostwng y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr yn galluogi plant, yn ogystal ag aelodau’r gymuned leol, i gael mynediad mwy diogel at eu hysgol leol, at weithgareddau cymunedol (a gynhelir mewn tair canolfan a neuadd gymunedol sydd drws nesaf i’w gilydd), at ddwy eglwys ac at barc a man chwarae. Mae cydymffurfio â Deddf Llesiant Cymunedau’r Dyfodol yn hanfodol, ac mae’n hollbwysig gostwng y terfyn cyflymder ar y ffordd hon i leihau allyriadau carbon a llygredd, yn ogystal ag annog rhagor o bobl i deithio’n llesol a defnyddio’r seilwaith feicio lleol. Byddai hyn yn gwella diogelwch yn y gymuned, yn lleihau llygredd ac yn hybu cynaliadwyedd, a fyddai yn ei dro yn arwain at lai o anghydraddoldeb o ran iechyd yn y gymuned leol.

 

Fel ardal Cymunedau’n Gyntaf yn y gorffennol, ac fel ardal sy'n wynebu nifer sydd yn uwch na’r cyfartaledd o ffactorau amddifadedd lluosog, dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu camau i fynd i’r afael â’r mater hwn i hyrwyddo cynhwysiant cymunedol a threchu anghydraddoldeb.

 

A picture containing text, way, road, highway

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. O ystyried y wybodaeth a gafwyd gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys y datganiad y dylai’r awdurdod lleol ymgynghori â'r gymuned ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r ffordd yn y rhaglen genedlaethol i osod terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn genedlaethol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer y gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor, felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb y Dirprwy Weinidog, a chaewyd y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021