P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid

P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bleddyn Rhys Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 372 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Yn nhymor diweddaraf y Senedd, mae nifer fawr o Aelodau o’r Senedd wedi newid eu hymlyniad gwleidyddol. Mae hon yn ffordd annemocrataidd i Aelodau ddatblygu eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain, yn erbyn y pleidiau y cawsant eu hethol i'w cynrychioli. Pan fydd unrhyw Aelod yn dymuno newid ei ymlyniad gwleidyddol, dylid mynd â’r mater at bobl ei etholaeth. Nid democratiaeth yw hyn, a gall arwain at gyflwyno syniadau / pleidiau peryglus i'r Senedd.

 

A picture containing sky, outdoor, roof

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 26/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yn sgil yr ymateb a gafwyd, pa mor agos yw etholiad nesaf y Senedd a'r ffaith y byddai’n amhosibl, o ganlyniad, i roi newid o'r fath ar waith ar ffurf deddfwriaeth sylfaenol ar yr adeg hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/21.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dyffryn Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021