P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Fatima Altaiy, ar ôl casglu cyfanswm o 4,053 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:      

Mae angen addysgu plant sut i fod yn wrth-hiliol. Er y bydd cyflwyno hanes pobl dduon a pobl groenliw i’r cwricwlwm yn fuddiol dros ben, mae angen i blant gael sgyrsiau uniongyrchol am hiliaeth a sut i fod yn wrth-hiliol. Bydd hyn yn lleihau’r achosion o fwlio mewn ysgolion ac yn caniatáu i blant dyfu i fyny mewn amgylchedd amlddiwylliannol, waeth p’un a ydynt wedi’u hamgylchynu gan ddiwylliannau eraill ai peidio. Fel hyn, bydd plant yn deall diwylliannau eraill ac yn gorchfygu stereoteipio a gwahaniaethu.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru a chytunodd i groesawu'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn adroddiad cynhwysfawr y Gweithgor a 51 o’i argymhellion ym mis Mawrth 2021 a:

  • bod y ddwy ddeiseb wedi llwyddo i dynnu sylw at yr angen i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau a chyfraniadau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghwricwlwm Cymru,
  • diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y materion pwysig hyn a chau’r deisebau; ac
  • wrth gau'r ddeiseb, cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i gael y wybodaeth ddiweddaraf am roi'r argymhelliad ar waith ddiwedd mis Mawrth 2022, gan gytuno i rannu'r ymateb hwnnw â'r deisebwyr.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2020