Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion
P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn
hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Cusack, ar ôl casglu cyfanswm o 50
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd mae'r ddadl ynghylch hil yn flaenllaw ym meddyliau pawb.
Mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn wyn, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa
ffodus oherwydd mae meddwl am hil yn fater o ddewis. I lawer yn y gymuned BAME
nid dewis yw hwn, ond ffaith a wynebir bob dydd. Chwaraeodd Cymru a phobl Cymru
ran weithredol yn hanes trefedigaethol Prydain. Yn ddiweddarach, dathlwyd
ffigurau fel Thomas Picton gyda cherfluniau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r rhan hon o’n hanes yn llawn cymhlethdodau ac mae llawer o
wirioneddau anghyfforddus y mae'n rhaid i ni fel poblogaeth fynd i'r afael â
nhw a chraffu arnynt. Mae llawer o bobl o’r farn bod hiliaeth a gwahaniaethu ar
sail hil yn broblem mewn gwledydd eraill ond nid yma. Rwy'n credu bod
cysylltiad cryf rhwng hyn a diffyg addysg am hanes trefedigaethol y wlad hon.
Mae deiseb debyg yn casglu llofnodion ac yn galw ar lywodraeth y DU i
weithredu. Rwy'n credu y dylem hefyd fynd i'r afael â hyn yma fel mater
datganoledig.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020