P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan y Cynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon, ar ôl casglu cyfanswm o 5,287 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Amcangyfrifir bod miliynau o ffesantod a phetris yn cael eu ffermio’n ddiwydiannol yng Nghymru bob blwyddyn fel y gellir eu saethu am 'sbort'. Er mwyn eu bridio, mae degau o filoedd o adar yn eu cadw’n gaeth mewn cewyll, yn aml am lawer o'u hoes bridio. Mae cewyll yn greulon ac mae anifeiliaid yn dioddef o’u herwydd. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chefnogaeth i Gymru ddod yn genedl ddi-gewyll. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd defnyddio cewyll ar gyfer cynhyrchu adar hela.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gall byw mewn cawell peri trallod ac anafiadau, ac nid yw'n darparu’n llawn ar gyfer anghenion nac ymddygiad naturiol yr adar. Gall yr adar ddioddef, ymysg pethau eraill, ddoluriau traed agored poenus, ymosodiadau a achosir gan straen, ac anafiadau sy’n deillio o’u hymgeision niferus i ddianc. Er mwyn lleihau ymddygiadau problemus sy'n gysylltiedig â'u cadw’n gaeth, megis pigo adar eraill, gellir hefyd ddefnyddio dyfeisiau fel atalyddion plastig, sy'n cael eu gwthio i'w ffroenau.

 

Mae ffesantod a phetris yn greaduriaid lled-wyllt eu natur, sy’n gwneud effaith y cewyll arnynt yn waeth fyth. Serch hynny, nid ydyn nhw hyd yn oed yn dod o dan y rheoliadau sylfaenol a ganiateir i anifeiliaid fferm eraill nac yn cael eu harchwilio'n rheolaidd. Mae ymchwiliadau wedi datgelu achosion o dorri canllawiau, megis defnyddio cewyll moel dro ar ôl tro, a gadael ffesantod marw mewn cewyll yn ddigon hir iddynt gael eu canibaleiddio. Hyd yn oed mewn cewyll a ddisgrifir fel rhai 'wedi’u cyfoethogi', gallai fod cyn lleied ag un glwyd i’w rhannu, llen blastig a rhywfaint o borfa artiffisial.

 

Ni waeth a yw’r cewyll sy’n eu cadw’n gaeth yn rhai moel neu’n rhai ‘wedi’u cyfoethogi’, mae adar hela’n dioddef. Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i ddod â'r arfer hwn i ben.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch ymgynghori â rhanddeiliaid pan fydd yn bwrw ymlaen â’r adolygiad o’r Cod, er na all roi amserlen benodol ar hyn o bryd oherwydd effaith ffliw’r adar, Covid a Brexit. Yng ngoleuni y sicrwydd hwb gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020