P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Steven Preddy, ar ôl casglu cyfanswm o 8,435 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae un o’r gwarchodfeydd natur gorau yng Nghymru o dan fygythiad.

 

Mae angen rheoli’r cynefinoedd twyni tywod o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghynffig, neu fel arall byddant yn colli eu gwerth eithriadol. Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn gwneud y gwaith hwn ers blynyddoedd lawer, ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’r gwaith oherwydd pwysau ariannol.

 

Nid yw perchennog y safle, sef corff cyfrinachol ac anatebol o’r enw Corfforaeth Cynffig, wedi bod yn barod i gytuno ar unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Efallai mai prynu gorfodol yw’r unig ddewis sydd ar ôl.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff twyni tywod Cynffig eu cydnabod fel Ardal Cadwraeth Arbennig, sef dynodiad cadwraeth natur uchaf Ewrop.

 

Mae gan Gorfforaeth Cynffig statws elusennol, ac felly mae’n ofynnol iddo, yn ôl y gyfraith, wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd. Bu Cyfoeth Naturiol Cymru, sef asiantaeth cadwraeth natur gyhoeddus y wlad, yn ceisio trafod gyda’r gorfforaeth i sicrhau dyfodol y safle, ond mae’r trafodaethau hyn wedi cyrraedd pwynt amhosibl ei ddatrys. Nid fu’r Gorfforaeth yn barod i gytuno i unrhyw un o’r opsiynau a ginigwyd, er nid yw’n eglur pam. Mae’n bryd i’r penderfyniad gael ei gymryd allan o’u dwylo.

 

Mewn achosion eithriadol, pan fydd budd amlwg i’r cyhoedd, mae gan

Lywodraeth Cymru y grym i brynu’n orfodol er mwyn amddiffyn safle fel Cynffig. Nid oes yn rhaid i orchymyn prynu gorfodol fod yn gostus: nid oes gwerth masnachol i’r safle, ac felly nid oes dim rheswm pam na all Corfforaeth Cynffig ei werthu i Lywodraeth Cymru am swm enwol.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor yr ymatebion pellach a ddaeth i law a boddhad Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r camau a gymerwyd i sefydlu Cytundeb Rheoli, a phenodi Rheolwr y Warchodfa yn ddiweddar. O ystyried hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw'n ymddangos bod prynu gorfodol yn ddatrysiad priodol ar hyn o bryd, a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020