P-05-1099 Peidiwch â chau'r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol

P-05-1099 Peidiwch â chau'r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nathan Gill, ar ôl casglu cyfanswm o 25,301 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae sector lletygarwch Cymru wedi dangos ei fod yn gallu cydymffurfio’n effeithiol â’r rheoliadau COVID llym, gyda thafarndai, barrau, bwytai, caffis a llawer o leoliadau eraill yn dangos eu bod yn gallu cadw pellter cymdeithasol. Mae lletygarwch eisoes wedi addasu i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol a mesurau hylendid ychwanegol, yn ogystal â system profi ac olrhain y llywodraeth.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae tystiolaeth gan y llywodraeth a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond rhwng 1% a 3% o heintiadau coronafeirws newydd sy’n digwydd mewn tafarndai, barrau a bwytai. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cyhoeddi tystiolaeth sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo yn uwch mewn lleoliadau lletygarwch, yna byddai’n annheg cosbi’r diwydiant unwaith eto drwy ei gau drwy gydol mis Rhagfyr.

 

Mae tafarndai, a’r diwydiant lletygarwch yn gyffredinol, ymhlith y rhai y mae’r cyfnod clo wedi effeithio arnynt fwyaf. Mae mwy na thraean o fusnesau lletygarwch yn dweud mai prin yw ei hyder, neu fod ganddynt ddim hyder o gwbl, y byddant yn goroesi’r tri mis nesaf, yn ôl data a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gynharach y mis hwn.

 

Mae’r flwyddyn hon wedi gadael y sector lletygarwch ar ymyl y dibyn, gyda llawer ohono ar gau drwy gydol 2020 yn sgil y pandemig. Mae masnach y Nadolig yn hanfodol er mwyn i fusnesau aros ar agor, ac achub llawer rhag gorfod cau am byth oherwydd colli enillion.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y ddeiseb wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod digwyddiadau dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau a diolch i’r deisebwyr.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ynys Môn
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020