Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru

Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru

Y newyddion diweddaraf

·         ADRODDIAD NEWYDD – Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad: Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i oblygiadau cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o bell i Gymru.

Crynodeb

Yn dilyn newidiadau o ran arferion a welwyd yn ystod y pandemig COVID-19 mae Llywodraeth Cymru yn anelu at weithio gyda sefydliadau i gefnogi symudiad tymor hir tuag at ragor o bobl yn gweithio o bell. Mae wedi diffinio gweithio o bell fel gweithio y tu allan i swyddfa draddodiadol neu weithle 'canolog'. Byddai hyn yn cynnwys “gweithio gartref ac yn agos at adref yn eich cymuned leol”. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi yr hoffai gael 30 y cant o weithwyr yng Nghymru yn gweithio o bell yn rheolaidd dros yr hirdymor, ond mae'n amlygu nad yw hwn yn darged ac na fydd dim gofynion yn cael eu gosod ar sefydliadau a chyflogwyr.

Er bod y polisi'n parhau i gael ei ddatblygu, pe bai'n cael ei wireddu byddai uchelgais gweithio o bell y Llywodraeth yn cael cryn effaith ar economi, ar amgylchedd (ecolegol ac adeiledig) Cymru ac ar y rhwydwaith trafnidiaeth.

Cylch gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn edrych yn fanwl ar gynigion Llywodraeth Cymru o ran gweithio o bell, gan gynnwys uchelgais y Llywodraeth sef, '30 y cant o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu'n agos at adref' yn rheolaidd, a'r datblygiad o hybiau gweithio o bell arfaethedig.  Bydd y Pwyllgor yn edrych ar effeithiau posibl y polisi hwn ar Gymru, o ran effeithiau ar:

  • Yr economi a busnes;
  • Canol trefi a dinasoedd;
  • Materion sy'n effeithio ar y gweithlu, a sgiliau
  • Iechyd a llesiant (iechyd corfforol ac iechyd meddwl)
  • Anghydraddoldebau rhwng gwahanol grwpiau a gwahanol rannau o Gymru (gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chysylltedd gwael);
  • Yr amgylchedd; a
  • Y rhwydwaith trafnidiaeth a'r seilwaith.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar dystiolaeth o Gymru a'r DU, ond hefyd ar enghreifftiau rhyngwladol lle mae uchelgeisiau tebyg wedi'u gosod.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020

Dogfennau

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau