Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru

Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru

Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi cynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

 

  • a yw’r system brentisiaethau gyfredol yn rhoi cymorth effeithiol i economi Cymru?
  • a yw’r system brentisiaethau gyfredol yn diwallu anghenion sgiliau cyflogwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a fydd y system yn eu diwallu yn y dyfodol? Os na, pa elfennau o’r system sydd angen eu gwella?
  • gofio’r flaenoriaeth gynyddol a roddir i brentisiaethau ar gyfer pobl sydd rhwng 16 a 24 oed, a yw prentisiaethau’n ddewis atyniadol i bobl ifanc?
  • a yw’r systemau ar gyfer sefydlu Safonau a Fframweithiau Prentisiaeth ac ar gyfer recriwtio prentisiaid yn gweithio’n effeithiol?

 

Materion allweddol

Roedd y materion y bu’r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn yn cynnwys:

 

  • pa mor effeithiol yw ymgysylltiad cyflogwyr â’r system brentisiaethau yng Nghymru? A yw hyn wedi newid o ganlyniad i’r amgylchiadau economaidd presennol? A yw cyflogwyr yn gallu dod o hyd i ddigon o bobl ifanc sydd â’r sgiliau a’r doniau sydd eu hangen arnynt? A yw’r berthynas rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn un effeithiol? A yw prentisiaethau’n parhau i gael eu cyfyngu i sectorau penodol?
  • a yw mentrau cymdeithasol yn gwneud defnydd effeithiol o brentisiaethau?
  • a yw nifer y prentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol, a’r sector cyhoeddus yn gyffredinol, wedi cynyddu neu wedi gostwng? A ddylai’r sector cyhoeddus recriwtio mwy o brentisiaid?
  • mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o gymalau Budd i’r Gymuned mewn contractau sector cyhoeddus, sef cymalau y gellir eu defnyddio i hyrwyddo’r arfer o gyflogi hyfforddeion a phrentisiaid. A yw hwn yn ddull effeithiol o gynyddu nifer y prentisiaid?
  • beth yw proffil cyffredinol prentis o ran oedran, rhyw a sector cyflogaeth, er enghraifft? A yw’r proffil hwn yn newid ac, os ydyw, beth yw’r rhesymau dros hyn? Yn ôl adroddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, oed prentis ar gyfartaledd yw 26. Beth yw'r rhesymau dros hyn? A yw prentisiaethau’n llwyddiannus, yn gyffredinol, o safbwynt prentisiaid? A yw’r gyfradd o brentisiaethau sy’n cael eu cwblhau wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Yn ymarferol, a roddir sicrwydd i brentisiaid y byddant yn cael swydd ar ddiwedd eu prentisiaeth?
  • a yw Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi cymorth effeithiol i bobl sydd am ddod o hyd i brentisiaethau? A yw’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau, sef gwasanaeth newydd sy’n cael ei gynnig gan Gyrfa Cymru, yn effeithiol?
  • pam mae pobl ifanc yn dewis bod yn brentisiaid? Pa ffactorau sy’n dylanwadu ar eu penderfyniad?
  • a yw prentisiaethau yn ddewis atyniadol i bobl o bob gallu, neu a ydynt yn cael eu hystyried yn ddewis eilradd o gymharu â dilyn cwrs addysg uwch? A yw agweddau’n newid, ac os felly, beth yw’r rhesymau dros hyn?
  • a yw’r bobl sydd â’r dylanwad mwyaf ar ddewisiadau pobl ifanc, fel rhieni/gofalwyr, athrawon gyrfaoedd mewn ysgolion, ac athrawon yn gyffredinol, yn deall y system brentisiaethau yn llawn? A yw’r system yn rhy gymhleth, ac a oes gormod o ddewis o ran rhaglenni?
  • pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau? Sut y mae’r polisïau hyn yn cydblethu a’i strategaethau ehangach ar yr economi a sgiliau?
  • mae addysg a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau, yn faterion datganoledig, ond nid yw cyfreithiau sy’n ymwneud â chyflogaeth wedi’u datganoli. A oes gan bobl ifanc hawliau a mynediad digonol o ran cael hyfforddiant fel prentisiaid? Os na, sut y gellir gwella’r sefyllfa hon?
  • a yw’r Cynghorau Sgiliau Sector yn hyrwyddo a chefnogi prentisiaethau mewn modd effeithiol? Sut y mae capasiti’r cynghorau yn effeithio ar eu perfformiad yn y maes hwn?
  • a yw cyllid Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol er mwyn cefnogi prentisiaethau?
  • a oes enghreifftiau o arfer da o ran gweithredu systemau prentisiaeth mewn gwledydd eraill y gallai Cymru ddysgu ohonynt?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau