P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty

P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhydwyn Ifan, ar ôl casglu tua 9,000 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

-       Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, am weld ein HOLL wasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynnal a’u diogelu yn Ysbyty’r Tywysog Phillip.

-       Rydym yn gwrthwynebu’r bwriad i israddio’n hysbyty.

-       Gofynnwn i’r Gweinidog Iechyd a Llywodraeth Lafur Cymru adolygu’u cynlluniau fel mater o frys.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 28/02/2012.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Llanelli

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017