Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gwasanaethau Ariannol

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gwasanaethau Ariannol

Cyflwynwyd y Bil Gwasanaethau Ariannol (“y Bil”) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 21 Hydref 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 (PDF 599KB). Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 3 Tachwedd 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Gwener 18 Rhagfyr 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Rhagfyr 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/11/2020

Dogfennau