P-05-1066 Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau

P-05-1066 Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1066 Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Phae Cole, ar ôl casglu cyfanswm o 861 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud, ystyriwyd bod canu’n beryglus iawn, ond mae astudiaethau gwyddonol yn dangos, dro ar ôl tro, nad yw canu’n fwy peryglus na siarad os caiff ei wneud yn drefnus ac ar ôl cynnal asesiad risg. Mae ymchwil yn dangos bod canu’n berffaith ddiogel, yn enwedig mewn mannau mawr sy'n cael digon o awyr, fel eglwysi cadeiriol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu i blant a phobl ifanc ganu o hyd gan ei bod wedi dweud ei fod yn rhy beryglus oherwydd oedran a phroblemau iechyd isorweddol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Eglwys Loegr wedi caniatáu i gorwyr ddychwelyd ers mis Medi ac ni chafwyd gwybod am achosion o Covid o ganlyniad i hynny hyd yn hyn. Mae’r holl eglwysi cadeiriol ac eglwysi eraill sydd wedi dychwelyd wedi cynnal asesiadau risg i sicrhau diogelwch corau a chynulleidfaoedd.

 

Rhoddwyd llawer o ystyriaeth i lesiant meddwl a chorfforol athletwyr ifanc, mabolgampwyr a sbortsmyn eraill, ond nid yw cantorion a cherddorion yn cael yr un ystyriaeth.

 

Mae llawer o gerddorion a chorwyr yn ymarfer ac yn hyfforddi’r un mor galed ag athletwyr ac mae eu llesiant a'u datblygiad yn cael eu diystyru ar hyn o bryd.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ohebiaeth a ddaeth i law.

 

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb oherwydd bod canllawiau manwl ar 'Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio’ wedi'i diweddaru'n ddiweddar yn dilyn y cyfnod atal byr, caniateir gweithgareddau dan do bellach ar gyfer grwpiau bach, a'r sefyllfa sy’n mynd rhagddi o ran y pandemig. Wrth wneud hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020