P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi'r trothwy i £300,000

P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi'r trothwy i £300,000

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1064 Ymestyn y Dreth Trafodiadau Tir chwe mis arall ar ôl 31 Mawrth a chodi’r trothwy i £300,000

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gavin Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 58 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae gwerthiant tai yn ddull a brofwyd o sicrhau sefydlogrwydd yn y marchnadoedd ariannol a byddai cynnydd o 6 mis ar yr hyn a nodir yn y canllawiau presennol yn sicrhau sefydlogrwydd hirdymor. Hefyd, yn unol â Chynlluniau Cymorth i Brynu dylid cynyddu'r gwerth o'r trothwy presennol o £250,000 i drothwy o £300,000.

 

A large brick building

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ddeiseb a’r ymateb a gafwyd. Yng ngoleuni datganiadau clir y Gweinidog fod y trothwy wedi cael ei osod i adlewyrchu'r farchnad eiddo yng Nghymru ac nad oes cynlluniau cyfredol i ymestyn y cyfnod, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer pellach y gellid ei gyflawni ar hyn o bryd. Diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am godi’r mater hwn a chaeodd y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Tor-faen
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2020