P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes

P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ryan Lee, ar ôl casglu cyfanswm o 2,144 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae'r grantiau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer busnesau mewn ardaloedd cyfyngiadau lleol neu yn grantiau datblygu busnes. Mae nifer o fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes y tu allan i ardaloedd cyfyngiadau lleol wedi sylwi bod nifer y cwsmeriaid wedi lleihau i ddim. Ni ellir defnyddio'r Grantiau Datblygu Busnes i dalu biliau misol. Mae angen cymorth ariannol ar fusnesau lletya anifeiliaid anwes nawr i'w hatal rhag mynd i’r wal. Mae cannoedd o swyddi a chartrefi mewn perygl heb gefnogaeth ariannol ddigonol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae busnesau lletya anifeiliaid anwes wedi ymdrechu i gadw'r drysau’n agored i helpu staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio oriau hir wrth frwydro i ymdrin â Covid-19, ac maent wedi helpu i ofalu am anifeiliaid anwes pobl sydd wedi bod yn yr ysbyty. Mewn llawer o achosion, mae cael un neu ddau anifail anwes i ofalu amdanynt ar y tro yn costio rhagor iddynt nag y maent yn ei ennill, a chyda rhagor o filiau gwresogi a goleuo dros fisoedd y gaeaf bydd llawer o’r busnesau yn cael eu gorfodi i gau, ac yna ni fydd y gwasanaeth hanfodol hwn ar gael.

 

Mae'r rhain yn fusnesau a oedd yn llwyddiannus cyn Covid-19 a byddant yn llwyddiannus eto, cyhyd ag y caiff rhywbeth ei wneud i'w diogelu.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, ar sail boddhad y deisebydd bod y Llywodraeth wedi cyfarwyddo cynghorau i dalu'r grant dewisol i fusnesau o'r math hwn, cytunodd i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Preseli Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2020