P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl h?n gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol

P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl h?n gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol

Aros am ystyriaeth gyntaf

 

P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Colin Edmunds, ar ôl casglu cyfanswm o 1,743 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae aelodau hŷn o’r gymdeithas yn aml wedi colli partner ac mae ganddynt gylch o ffrindiau yn eu clybiau priodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn clybiau golff. Efallai bod y clwb y tu allan i'r ardal sydd o dan glo, weithiau dim ond taith byr y tu hwnt i’r ffin. Mae eleni wedi bod yn anodd i bawb ond mae wedi bod yn arbennig o anodd i'r grŵp oedran hwn, wrth i’r pandemig effeithio ar eu hiechyd corfforol a chael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl hefyd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran. Mae achosion o wahaniaethu sy’n groes i’r Ddeddf Cydraddoldeb yn anghyfreithlon.

Mae newidiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i bobl ifanc deithio allan o ardal sydd dan glo i glwb chwaraeon personol.

Mae'r weithred hon yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn y mae angen iddyn nhw hefyd ddefnyddio’r fath gyfleusterau.

 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2020