P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw

P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw

Completed

 

P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Adam Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 750 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae trwyddedeion bariau a thafarndai yn dilyn gweithdrefnau llym er mwyn masnachu, ac i wneud yn siŵr bod staff a chwsmeriaid yn cael eu diogelu ar bob adeg.

 

Gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ychwanegol ar waith, mae trwyddedeion ledled y wlad wedi dangos eu bod yn gallu gwneud hynny gan barhau i fasnachu, cadw eu lleoliadau ar agor a sicrhau swyddi.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn ôl dogfennau SAGE, mae arbenigwyr wedi wfftio’r syniad o gyrffyw am ddeg o’r gloch yr hwyr ar gyfer tafarndai, bariau a bwytai cyn iddo gael ei roi ar waith ledled Lloegr.

www.independent.co.uk/news/health/coronavirus-3-tier-lockdown-new-restrictions-boris-johnson-sage-curfew-b1012869.html%3Famp

 

Mae’r Prif Weinidog ei hun wedi dweud nad oes unrhyw beth sy’n profi bod cysylltiad rhwng cynnydd mewn achosion â bariau, tafarndai a bwytai.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn honni bod tystiolaeth yn ardal Heddlu Gwent yn dangos nad yw'r nifer cynyddol o achosion yn cael eu hachosi gan dafarndai a bwytai.

https://www.walesonline.co.uk/whats-on/food-drink-news/newport-lockdown-gwent-pubs-hospitality-19078374

 

Yn ôl lleoliadau, bu gostyngiad o 93% ers mis Awst, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

 

Gydag ychydig iawn o gefnogaeth ar gael, ac yn wyneb ansicrwydd, mae hyn yn achosi mwy o bryder a straen i berchnogion o fewn y sector lletygarwch.

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo'r cyrffyw 10pm, gadael i leoliadau fasnachu yn unol â'u trwyddedau ac achub ein heconomi gyda'r nos.

 

A picture containing indoor, bottle, counter, kitchen

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb yn sgil y ffaith bod y rheolau wedi newid ymhellach ers cyflwyno'r ddeiseb a bod y Pwyllgor ar fin ystyried deisebau pellach, esboniad y cyngor gwyddonol y tu ôl i'r cyrffyw 10pm o dan arweiniad y Gell Cyngor Technegol, yr arian a amlinellwyd ar gyfer cefnogi'r diwydiant a’r gwaith craffu ar faterion cysylltiedig sy'n cael eu cynnal gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2020