P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kate Perry, ar ôl casglu cyfanswm o 187 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Yn anffodus, dim yr unig rai oedd heb gyswllt ag anwyliaid mewn ysbytai a chartrefi gofal. Mae gan fy mam glefyd alzheimer ac ni all godi’r ffôn na defnyddio sgwrs fideo i gadw mewn cysylltiad. Yn ystod y cyfyngiadau symud gwreiddiol, welson ni ddim sut roedd yn edrch am 9 wythnos, ac roedd yn ofnadwy. Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn ddigon clir ac nid oes gan bob lleoliad yr arian ar gyfer offer. Mae’n rhaid i hyn newid. Dylai fod cynllun clir ym mhob man, a'r gallu i gadw teuluoedd mewn cysylltiad.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Er fy mod yn deall yr anghenion diogelwch o ran cadw pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel rhag covid, nid wyf yn deall y diffyg ystyriaeth o ran iechyd meddwl cyffredinol pobl. Rwyf yn adnabod llawer o bobl yn yr un sefyllfa gyda rhywun annwyl ac nid oes yr un ysbyty na chartref gofal yn gwneud yr un peth. Siawns y dylai cyfleusterau ac ysbytai gael cyllid ar gael a chanllawiau clir ar gadw teuluoedd mewn cysylltiad fel rhan o ofal cyfannol yr unigolyn hwnnw. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai pobl ag anableddau dysgu neu ddementia gael ymwelwyr os na fyddai gwneud hynny'n achosi gofid. Ceisiwch brofi bod diffyg cyswllt yn achosi pryder i rywun nad yw weithiau'n gwybod pwy ydych chi. Mae canllawiau'n nodi bod diwedd oes yn rheswm dros ymweliadau, ond pwy sy'n penderfynu ar ba adeg yn yr achos hwnnw y gallwch ymweld? pan nad yw'r person yn ymwybodol eich bod yno? Nid yw'n ddigon clir. Mae amser yn werthfawr ac mae angen arweiniad a chyllid clir arnom fel bod pobman yn dilyn yr un peth a bod teuluoedd yn gwybod bod gobaith o gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.

 

Person Holding a Stress Ball

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Dywedodd yr aelodau eu bod yn cydnabod bod y penderfyniad i gyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi arwain at brofiadau anodd.  Mae Cymru gyfan yn awr ar Lefel Rhybudd Sero ac mae’r canllawiau ar ymweliadau wedi’u diweddaru. Gan hynny, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim arall y gallai ei wneud a chytunodd i ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater a chau’r ddeiseb.

Wrth wneud hynny, cytunodd yr aelodau i ddiolch i'r Gweinidog am roi sylw i’r mater ac ysgrifennu ati yn gofyn iddi ystyried y materion a godwyd yn y ddeiseb yn y dyfodol os bydd yr un sefyllfa’n codi eto.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2020