Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Cyflwynwyd y Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 9 Medi 2020. Roedd cyflwyniad y Bil yn dilyn Papur Gwyn gan Lywodraeth y DU, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

 

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 25 Medi 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 26 Tachwedd 2020 (Diwygiwyd ar 17 Tachwedd 2020).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar Fil Marchnad Fewnol y DU - Cydsyniad Deddfwriaethol ar 26 Tachwedd 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ar 26 Tachwedd 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ar 26 Tachwedd 2020.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Ar 3 Rhagfyr 2020, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/10/2020

Dogfennau