Cynllun Masnachu Allyriadau y DU: Fframwaith Cyffredin
Cynllun Masnachu Allyriadau y DU: Fframwaith Cyffredin
Ymgymerodd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â gwaith ar Gynllun Masnachu
Allyriadau arfaethedig y DU, gan gynnwys deddfwriaeth gysylltiedig a fframwaith
anneddfwriaethol.
Ar hyn o bryd,
mae’r DU yn rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE, sef y system fasnachu
fwyaf yn y byd ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae cynlluniau masnachu
allyriadau’n gweithio’n ôl egwyddor ‘capio a masnachu’. Rhoddir cap ar rai
allyriadau nwyon tŷ
gwydr cysylltiedig â gosodiadau ac awyrennau sy’n rhan o’r cynllun. Bydd
allyrwyr sy’n rhan o’r cynllun yn cael neu’n prynu lwfansau sy’n cyfateb i’w
hallyriadau eu hunain, a byddant yn
masnachu’r ymhlith ei gilydd yn ôl yr angen. Dros gyfnod, bydd y cap yn
gostwng a bydd cyfanswm yr allyriadau’n gostwng hefyd.
Ar ddiwedd y
cyfnod pontio (ar 31 Rhagfyr 2020), bydd y DU yn gadael Cynllun Masnachu
Allyriadau’r UE. Mae angen polisi ‘prisio carbon’ arall felly er mwyn lleihau
allyriadau’r allyrwyr o’r DU sy’n rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE ar
hyn o bryd.
Mae Llywodraeth y
DU a’r gweinyddiaethau datganoledig (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) wedi cytuno
i sefydlu un Cynllun Masnachu Allyriadau i’r DU gyfan, a set o reolau cyffredin
ar gyfer y rhai a fydd yn rhan o’r cynllun. Bydd unrhyw gynigion i
weinyddiaethau wyro oddi wrth y polisi’n cael eu hystyried gan y pedair
gweinyddiaeth, gan ddefnyddio proses lywodraethu a fydd wedi’i chynnwys yn y
concordat a’r Cytundeb Amlinellol ar gyfer Fframwaith Cynllun Masnachu
Allyriadau’r DU.
Ar 27 Gorffennaf
2020 ysgrifennodd
(PDF 221KB) y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyda
nifer o gwestiynau ynghylch datblygu Fframwaith Cyffredin i ddisodli System
Masnachu Allyriadau’r UE (EU ETS). Ymatebodd
(PDF 481KB) y Gweinidog ar 16 Medi 2020.
Ar 1 Hydref 2020
cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda’r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd
Deben, Cadeirydd Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, a Hannah
Dillon o Zero Carbon Campaign i helpu lywio ei waith.
Ar 8 Hydref 2020,
cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd
(PDF 179KB) y Cadeirydd at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r
materion a godwyd yn ystod y sesiwn. Ymatebodd
(PDF 261KB) y Gweinidog ar 2 Tachwedd 2020.
Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi ar y
dudalen hon.
Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/09/2020
Dogfennau
- Ymateb gan y Cadeirydd at Bwyllgor yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir, Senedd yr Alban (Saesneg yn unig) - 10 Rhagfyr 2020 PDF 239 KB
- Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir, Senedd yr Alban (Saesneg yn unig) - 4 Rhagfyr 2020 PDF 102 KB
- Ymateb gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 2 Tachwedd 2020 PDF 261 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 13 Hydref 2020 PDF 179 KB
- Ymateb y Cadeirydd i lythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Gogledd Iwerddon (Saesneg yn unig) - 16 Hydref 2020 PDF 188 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Gogledd Iwerddon at y Cadeirydd (Saesneg yn unig)- 12 Hydref 2020 PDF 132 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - 10 Medi 2020 PDF 586 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 27 Gorffennaf 2020 -16 Medi 2020 PDF 481 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 27 Gorffennaf 2020 PDF 221 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 15 Gorffennaf 2020 PDF 279 KB
- Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 (Saesneg yn unig)
- Asesiad Integredig Llywodraeth Cymru o’r Effeithiau - Crynodeb PDF 474 KB
- Dogfen gryno (Saesneg yn unig) PDF 359 KB
- Gohebiaeth gan Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, AMgylchedd a Materion Gwledig at Yr Arglwydd Deben (Saesneg yn unig) - 2 Mawrth 2021 PDF 205 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd,Ynni a Materion Gwledig - 15 Rhagfyr 2020 PDF 265 KB
- Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2020 (Saesneg yn unig) – 17 Rhagfyr 2020
- Llythyr diolch gan y Cadeirydd at yr Arglwydd Deben (Saesneg yn unig) - 5 Hydref 2020 PDF 133 KB
- Llythyr diolch gan y Cadeirydd at Hannah Dillon, Zero Carbon (Saesneg yn unig) - 5 Hydref 2018 PDF 131 KB
Papurau cefndir