P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru

P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jamie Edwards, ar ôl casglu cyfanswm o 3,889 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae ralïau ceir a gaiff eu cynnal yng Nghymru yn dod â thua £15 miliwn i economi’r wlad bob blwyddyn. Mae effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau a osodir ar ddigwyddiadau wedi difrodi’r byd ralïo yng Nghymru, ac wedi effeithio ar swyddi, busnesau, gyrfaoedd ac hefyd wedi effeithio’n fawr ar gymunedau gwledig ledled Cymru sy'n elwa o 'dwristiaeth' ralïo. Goblygiadau’r cyfyngiadau presennol yw ei bod yn amhosibl i drefnwyr gynllunio ymlaen llaw ar gyfer 2021, ac felly gallai llawer yn rhagor o ddigwyddiadau, busnesau a swyddi gael eu colli yn barhaol..

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r byd ralïo wedi ymateb i effaith COVID-19, a chynhaliwyd digwyddiad treialu yn llwyddiannus yn Cumbria ym mis Awst. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys cystadleuwyr a deithiodd o bob rhan o'r DU i gyrraedd y digwyddiad mewn coedwig breifat. Nid oedd y digwyddiad yn cynnwys gwylwyr, a dilynwyd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn llym.

Cwblhawyd y gwaith gweinyddol cyn y digwyddiad yn electronig. Nid oedd dim rhyngweithio corfforol rhwng swyddogion y cwrs, y stiwardiaid, y timau amseru na’r cystadleuwyr, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

Ni adroddwyd am ddim achosion o COVID-19 ers y digwyddiad, a rhoddwyd hwb i'r ardal leol (Penrith) wrth i ystafelloedd gwestyau gael eu gwerthu ac i fyrddau mewn bwytai gael eu harchebu.

Mae ralïo yng Nghymru yn cael ei gynnal mewn rhannau gwledig ac anghysbell o'r wlad, hynny yw, ardaloedd fel Dolgellau, Pembre, y Trallwng, Conwy, Cwm-nedd a Llanfair-ym-Muallt. Gellir dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a chynnal digwyddiadau ralïo mewn modd sy’n cydymffurfio â rheolau COVID-19 hyd eithaf ein gallu.

Ar hyn o bryd, mae'n amhosibl trefnu ralïau moduron yng Nghymru oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd.

 

Photo of Car on Dirt Road

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2020