P-05-1023 Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i'w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru
P-05-1023 Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau
ailgylchu a chasglu deunyddiau i’w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Kathryn Davids, ar ôl casglu cyfanswm o 81 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
hyn o bryd, mae cynghorau yng Nghymru yn codi tâl ar ysgolion i gasglu
gwastraff i'w ailgylchu. O gofio bod eu cyllid blynyddol yn gyfyngedig, mae'n
anodd i ysgolion dalu'r gost hon. O ganlyniad, mae llawer iawn o wastraff i'w
ailgylchu yn mynd i safleoedd tirlenwi gan nad oes gan ysgolion finiau
ailgylchu ac nid yw'r Cyngor yn trefnu i gasglu'r gwastraff hwn.
Ym
mis Ebrill 2019, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ond,
er hynny, nid yw athrawon a dysgwyr yn gallu cyfrannu at leihau eu hallyriadau
carbon lle maent yn gweithio neu'n dysgu. Bydd llawer o athrawon yn cymryd
deunyddiau o'u hystafelloedd dosbarth i'w hailgylchu gartref, neu bydd Clybiau
Eco mewn ysgolion yn casglu gwastraff, ond mae angen cysondeb yn genedlaethol,
fel bod ailgylchu'n dod yn arfer gartref ac yn yr ysgol.
Rwy'n
galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i ganiatáu i hyn ddigwydd ar hyd a
lled y wlad, i ddangos ei bod yn cadw at ei harwyddair, sef ein bod yn wlad
fach ag uchelgais fawr.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae'n
baradocs llwyr ein bod yn dysgu disgyblion i fyw'n fwy cynaliadwy a bod yn fwy
ymwybodol o'r amgylchedd, ond yn yr union leoedd maen nhw'n dysgu am y materion
hyn, ni allant roi'r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith.
Nod cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yw creu
ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd. Dylai fod yn bosibl i
bob ysgol ailgylchu deunyddiau fel rhan o fod yn ddinesydd egwyddorol, yn
enwedig mewn gwlad sy'n ail yn y byd am ailgylchu gwastraff cartref.
Rhaid i ailgylchu ym mhob ysgol fod yn rhan
annatod o nod Llywodraeth Cymru i fod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050 a rhaid
iddynt fod yn rhan o Gynllun Carbon Isel Cymru.
Rhaid gwneud mwy na dim ond hyrwyddo cyfrifoldeb
personol a rhaid galluogi a grymuso ein pobl ifanc i weithredu a gwneud
dewisiadau er gwell a rhaid i addysgwyr a phawb sy'n gweithio mewn ysgolion
fedru gweithredu'n unol â'r negeseuon y maent yn eu cyflwyno i bobl ifanc.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyllid sydd ar gael drwy
Gronfa’r Economi Gylchol a boddhad y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2020