Gwrandawiad Cyn Penodi: Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwrandawiad Cyn Penodi: Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Ar 26 Medi 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gwrandawiad cyn penodi gyda ymgeisydd dewisol Llywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF 178KB) ar 30 Medi 2019.

Ar 8 Hydref 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig fod Syr David Henshaw wedi’i gadarnhau’n gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sefydlwyd CNC ar 1 Ebrill 2013 pan gyfunwyd cyfrifoldebau, asedau a staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru

Yn ogystal â'i amrywiol gyfrifoldebau gweithredol a rheoleiddiol, CNC yw’r prif gorff sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch materion yn ymwneud ag adnoddau naturiol.

Mae CNC, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru ac mae Pwyllgorau perthnasol y Cynulliad yn craffu ar ei waith. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2021

Dogfennau