Gwrandawiad Cyn Penodi: Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwrandawiad Cyn Penodi: Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru
Ar 26
Medi 2019, cynhaliodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gwrandawiad cyn penodi gyda
ymgeisydd dewisol Llywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC). Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF
178KB) ar 30 Medi 2019.
Ar 8 Hydref 2019, cyhoeddodd
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig fod Syr David Henshaw
wedi’i gadarnhau’n gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sefydlwyd CNC ar 1
Ebrill 2013 pan gyfunwyd cyfrifoldebau, asedau a staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru
Yn ogystal â'i
amrywiol gyfrifoldebau gweithredol a rheoleiddiol, CNC yw’r prif gorff sy’n
cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch materion yn ymwneud ag adnoddau naturiol.
Mae CNC, fel Corff
a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru ac mae Pwyllgorau
perthnasol y Cynulliad yn craffu ar ei waith. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am
sicrhau bod CNC yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2021
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Gwrandawiad Cyn Penodi: Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru - 30 Medi 2019
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 8 Hydref 2019 PDF 777 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at yr ymgeisydd ynghylch holiadur gwrandawiad cyn penodi (Saesneg yn unig) - 25 Gorffennaf 2019 PDF 119 KB