P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru

P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1008 Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonny Alcock, ar ôl casglu cyfanswm o 222 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Am gyfnod llawer rhy hir yn awr, mae llofrudd tawel wedi bod yn peri galar yng Nghymru. wrth i bobl ddirifedi golli anwyliaid ar ôl brwydr anhysbys. Diben y ddeiseb hon yw pwyso am hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn ysgolion er mwyn creu cymdeithas lle bydd pobl bob amser yn cael y cymorth a’r arfau i ymladd y frwydr ofnadwy y mae llawer yn ei hwynebu bob dydd, gan achub bywydau llawer, gobeithio.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebydd a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y pwnc, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/08/2020